Cynnwys y Safle © 2010: Eglwys Cadog Sant, MfH a Ffynonellau a Nodwyd

Gwegynllunio: Redannick a MfH: gwaith datblygu gwreiddiol gan Dot Designs.


Our church is normally open daily from 1000 to at least 1700.

Y ffordd hawsaf o ddod o hyd i eglwys Cadog Sant yw oddi ar yr A48, y rhan honno o’r ffordd sydd rhwng Caerdydd a’r Bont-faen. Os ydych yn teithio o gyfeiriad y dwyrain, ewch trwy Dresimwn (Bonvilston), gan anwybyddu’r arwydd cyntaf i Lancarfan ar y chwith (mae’r ffordd yn arw) a throi yn lle hynny ger tafarn yr ‘Old Post’. (Mae’r arwydd yn sôn am Lantriddyd, ond peidiwch â gadael i hynny eich drysu!)  Os ydych yn teithio o’r gorllewin, trowch i’r dde ger yr ‘Old Post’.  Yna dilynwch yr heol i gyfeiriad y môr am ryw 2.5 milltir, gan gadw i’r chwith wrth y fforch gyntaf yn yr heol. Chwiliwch am yr Hen Ficerdy, ar y chwith, ac yna trowch yn syth i’r chwith oddi ar yr heol fawr wrth y gyffordd nesaf, lle gwelwch batrwm saethau ar yr heol.  I lawr y bryn â chi ac fe welwch Lancarfan ac eglwys Cadog Sant o’ch blaen.  

I gael gwybod am ddyddiadur cyfredol Eglwys Cadog Sant, cyfeiriwch at ‘Galendr Digwyddiadau’ Cymdeithas Llancarfan, sydd i’w weld ar: www.llancarfansociety.org.uk    

Just before conservation began again, parish youngsters copied the walls, and used original methods & pigments to rediscover the craft skills of their ancestors.