THOU THAT STANDS
Mae penglog yn pipo o amgylch cornel un o ffenestri’r de. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch lond ceg o wên ddanheddog, yn gwepio tua’r chwith. Mae penclwm amdo yn disgyn ar draws y benglog. Mae yna rybudd dychrynllyd yma sy’n disgwyl i gael ei ddatgelu.
Fel y medrwn ddarllen ar y garreg fedd hon o ddechrau’r 18fed ganrif, roedd y neges ‘fel yr wyf i nawr, felly y byddi dithau’ yn cael ei phwysleisio’n gryf. Mae’r sgerbwd llawn hyd hwn, sydd i’w weld yn eglwys fechan Patrisio neu Ferthyr Issui, yn adrodd yr un hanes. Mae’r fath arswydo rhag marwolaeth yn awgrymu’r rheswm pennaf dros fod yn dda yn y byd sydd ohoni.
Roedd Angau, wrth gwrs, yn ymwelydd cyfarwydd iawn. Yn eglwys Cadog Sant bu dyfalu tybed a oedd yna ddarlun llawnach yn gorwedd o dan y gwyngalch. Mae eglwysi eraill yn darlunio chwedl rybuddiol tri brenin sy’n cwrdd â thair celain ar gyrch hela. Eto, mae’r ffigyrau tebyg i sombis yma yn rhybuddio bod angau yn disgwyl y bobl bwysicaf, hyd yn oed.
