OLION SAN SIÔR Dim ond awgrym o’r hyn sydd i ddod yw troed ac arfwisg San Siôr. Islaw’r gelfyddyd gorwedd stori gymhleth arwyddocâd Siôr i Loegr ac i Gymru. Nid symbol crefyddol yn unig oedd Siôr. Roedd ei ddelwedd yn emblem wleidyddol, dan gochl eiconograffeg grefyddol.
Glaniodd Harri Tudur (Harri’r VIIfed) yng ngorllewin Cymru ym 1485. Pan drechodd Rhisiart y Trydydd ar Faes Bosworth roedd yn arddangos croes San Siôr. Ond roedd cysylltiadau brenhinol cynharach â Siôr oedd yn dyddio’n ôl i gyfnod marchogion y Gardas, a sefydlwyd yn oes Edward IIIydd. Yn ddiweddarach enillodd Harri’r Ved frwydr Agincourt dan nawdd San Siôr. Croesawodd Harri’r VIIfed y ‘brandio’ hwn – a gwelir hynny yn yr ysgythriad yma [de] sy’n seiliedig ar baentiad o tua 1505, o’r teulu brenhinol yn penlinio islaw nawddsant Lloegr, yr ymladdwr dreigiau San Siôr.
Ond pam mae i’w weld ar fur yng Nghymru, gan mai un o ddim ond tair delwedd o Siôr a ddarganfuwyd yng Nghymru yw hon? Yn y lle cyntaf, mae’n dweud bod Harri’r VIIfed yn Gymro – ‘yr un a’n rhoes ninnau’n rhydd’. Ond yn ail, roedd tiroedd y Mers am ddangos teyrngarwch arbennig. Daw tystiolaeth ddigamsyniol o dwrnamaint mawr a gynhaliwyd ym 1507 gan Syr Rhys ap Thomas yng Nghastell Caeriw yn Sir Benfro. Yno, roedd tablo dramatig yn dangos San Siôr a Dewi Sant ‘yn cofleidio’.
