Cynnwys y Safle © 2010: Eglwys Cadog Sant, MfH a Ffynonellau a Nodwyd

Gwegynllunio: Redannick a MfH: gwaith datblygu gwreiddiol gan Dot Designs.


 

 

 

EGLWYS CADOC SANT

Arferwyd y ffydd Gristnogol yma ers 1500 o flynyddoedd

 

Roedd Bro Morgannwg yn ganolfan Gristonogol Brydeinig o bwys. Bu abaty neu glas a sefydlwyd gan Sant Cadoc, neu Cadog, yma ers 650 OC o leiaf. Erbyn y 9fed ganrif roedd Llancarfan yn ganolfan ddysg ffyniannus. Gorweddai prif adeiladau’r clas ychydig i’r de o’r fan lle mae’r eglwys heddiw, yng Nghaeau Culvery.

Er i’r Daniaid ymosod arni, datblygodd mynachlog Llancarfan i’r fath raddau fel mai hi oedd y ‘gymuned eglwysig fwyaf pwerus ym Morgannwg’. Serch hynny ni lwyddodd i oroesi goresgyniad y Normaniaid, ac wedi iddi gael ei diddymu, aeth y cyfrifoldeb amdani i Abaty Sant Pedr yng Nghaerloyw. Ond roedd gan Cadog Sant bresenoldeb o hyd yn eglwys y plwyf, lle mae’r bwa cangell syml yn awgrymu dyddiad sefydlu tua 1200.

Yn ystod yr 800 mlynedd nesaf gwelwyd yr eglwys drawiadol ei siâp yn gwasanaethu ei chymuned, gan oroesi helbulon y diwygiad Protestannaidd ac adferiad y Frenhiniaeth. Mynd a dod fu hanes capeli’r Bedyddwyr a’r Wesleaid gerllaw, ond mae eglwys Cadog Sant yn parhau i ailddiffinio ei swyddogaeth o fewn y plwyf, gan estyn allan i rannu ei pherthnasedd diwylliannol ac ysbrydol gydag ymwelwyr, pentrefwyr a phawb sy’n trysori’r dreftadaeth sydd i’w gweld yn ein hanes.