Cynnwys y Safle © 2010: Eglwys Cadog Sant, MfH a Ffynonellau a Nodwyd

Gwegynllunio: Redannick a MfH: gwaith datblygu gwreiddiol gan Dot Designs.


CLICIWCH

Y SAITH PECHOD MARWOL        O amgylch bwa ffenestr   y de-orllewin darganfu ein cadwraethwyr – oedd yn gweithio i sefydlogi’r difrod a achoswyd gan ystlumod – un gair Lladin: ‘Gula’. Mae hyn yn golygu ‘glwthineb’, yr unig Bechod Marwol o bosib na fyddai plwyfolion Llancarfan wedi cael llawer o gyfle i’w gyflawni. Serch hynny, lle bydd un pechod i’w weld bydd chwech arall yn si?r o ddilyn. Rydym yn awchu gweld a fydd gwaith cadwraeth y dyfodol yn gallu datgelu Balchder (Superbia), Trachwant (Avaritia), Eiddigedd (Invidia), Dicter (Ira), Blys (Fornicatio) a Diogi (Socordia neu Acedia). Yn y cyfamser, dyma ddarlun o Gapel Brancacci, Fflorens i’ch atgoffa am y cyflwr dibechod hwnnw cyn y Cwymp.

Hyd yn oed heddiw rydym yn deall yn iawn beth oedd goblygiad pob pechod. Ond roedd ymateb yr eglwys i’r pechodau a gyflawnwyd yn amrywio o gyffes bersonol i gosb gyhoeddus. Pe bai Llid yn arwain at lofruddiaeth, roedd iawndal sifil i’w gael, ond sawl achos hefyd o’r rhai a gafodd cam yn cymryd y gyfraith i’w dwylo eu hunain.

Roedd cryn b?er gyda’r llysoedd eglwysig a mynachaidd (er yn anffodus nid oes yna gofnodion o’r llysoedd eglwysig ar gyfer esgobaethau Cymru). Gallai cyflawni’r pechodau lleiaf hyd yn oed olygu cael eich darostwng trwy gerdded yn droednoeth mewn gorymdaith, gan wisgo g?n penydiwr a chario cannwyll geiniog i’w rhoi i’r offeiriad ar ôl y gwasanaeth.