'GULES 3 SWANS PROPER'
Dyna’r disgrifiad herodrol o arfbais teulu Bawdrip – ac yn sicr fe ddaeth elyrch gwynion i’r golwg o dan y gwyngalch. O’r 14eg ganrif ymlaen bu teulu Bawdrip yn byw ger pentref cyfagos Pen-marc. Er nad ydym yn sicr o hyn eto, mae’n bosib iawn bod y teulu hwn wedi noddi’n darluniau.
Teulu o Wlad yr Haf oedd teulu Bawdrip ac mae’r cofnodion cynharaf yn dangos eu bod yn byw gyntaf yn Odyn’s Fee, ac wedyn ym Mhlas Pen-marc (a welir yma fel ffermdy braf, ond a oedd ar un adeg yn drefred amddiffynnol). Roedd cysylltiadau pwysig ganddynt – priododd un o’r merched, Agnes, ag un o feibion teulu pwerus Basset. Ond ffynnodd y teulu fwy eto pan briododd William Bawdrip Margaret Craddock, a oedd yn fam (trwy briodas flaenorol) i William Herbert. Yn ei gyfnod William Herbert oedd y dyn mwyaf pwerus yng Nghymru; goroesodd ac (ar y cyfan) ffynnodd dan bedwar o frenhinoedd a breninesau, o Harri’r VIII i Elisabeth.
Mae’n bosib mai duwioldeb – neu’r syniad o dreulio llai o amser ym Mhurdan oherwydd eu haelioni – oedd wedi cymell y teulu i noddi’r darluniau hyn. Ond erbyn 1549 roedd y bachgen o frenin, Edward VIed, yn benderfynol o gael gwared ar yr holl Seintiau, gan gynnwys San Siôr hyd yn oed. Efallai bod teulu pragmataidd Bawdrip hefyd wedi talu am y gwyngalchu yng nghyfnod y diwygiad Protestannaidd? Ond erbyn hynny roedd y teulu yn byw ar diroedd yr eglwys ar forfa’r Sblot yng Nghaerdydd, lle mae Heol Bawdrip i’w gweld hyd heddiw.
