Cynnwys y Safle © 2010: Eglwys Cadog Sant, MfH a Ffynonellau a Nodwyd

Gwegynllunio: Redannick a MfH: gwaith datblygu gwreiddiol gan Dot Designs.


CLICIWCH

Y DDRAIG

Dim ond dyfalu y medrwn ar hyn o bryd sut olwg yn union fydd ar ein draig pan ddaw i’r golwg o’i hogof wyngalch. Defnyddir y ddelwedd o’r ddraig gyferbyn – bwystfil teneuach na’n un ninnau o bosib? – gyda chaniatâd Meistr a Chymrodyr Coleg y Drindod, Caer-grawnt. Mae’r tablo clasurol hwn, o gyfrol Barclay ar fywyd San Siôr, yn adlewyrchu llawer o’r elfennau y byddem yn disgwyl eu gweld yn ein darlun ni. Nodwyd golygfeydd fel y rhain ar furiau dros saith deg o eglwysi yn Lloegr, ond hon yw’r drydedd yn unig i’w chanfod yng Nghymru.

Ond rhaid i ni fod yn ofalus yma i beidio â drysu rhwng y ddraig hon a Draig Goch Cymru. Na draig symbolaidd Harri’r VIIfed, chwaith, creadur a oedd yn dal i’w weld ar yr arfbais frenhinol hyd i Uncorn yr Alban ei ddisodli yng nghyfnod y Stiwartiaid.

Er bod sawl haen o ystyr i’r ddraig, yn ei hanfod symbol o ddrygioni yw ein bwystfil ni, y metaffor y tu ôl i chwedl San Siôr a’r Ddraig. Ac yn wir mae yna debygrwydd i’w weld rhwng safnau cegrwth ein draig ni a’r ffordd y darlunnir porth uffern mewn llawer o furluniau’r 15fed ganrif.