Y FRENHINES A’R BRENIN
Mae’r pâr brenhinol yma sy’n gwylio eu merch yn cael ei haberthu yn fân actorion rheolaidd yn yr hanesion am San Siôr. Mae eu duwiau paganaidd wedi cefnu arnynt ac nid yw eu holl bwerau daearol yn gallu achub y dywysoges. Gwelwyd y ddrama hon nid yn unig mewn paentiadau ond hefyd mewn tablos.
Felly pan ymwelodd y Brenin Edward IVydd â Bryste ym 1461 cafodd ei dderbyn yn Temple Cross gan
'Seynt George on horsbakke . . . fyghtyng
with a dragon; and the Kyng and Quene on
high in a castell, and his doughter benethe
with a lambe; ate the sleying of the dragon
ther was a greet melody of aungellys."
Ychydig yn ddiweddarach, ym 1515, disgrifiodd llyfr Barclay am fywyd San Siôr y llawenydd a achosodd ymyrraeth Siôr a’u hymwadiad â gau dduwiau:
The kynge and queen were chrystenyd firste of all
Next them theyr doughter, gode chaste Alcyone,
And after them the people great and small
Stryvyd who first might at the water be
Receyvynge batysme with all humylyte . . .
