Pentref bychan yw Llancarfan, sy’n gorwedd yng nghesail dyffryn Nant Carfan ym Mro Morgannwg. Mae haenau o’r gorffennol – y gwirioneddol a’r dychmygol – yn croesawu ymwelwyr, ac yn dal i synnu’r pentrefwyr. Ganed yr hanesydd a’r chwedlonydd enwog Iolo Morganwg yma. Mae ei waith a’i ddychmygion yn wobr i’r haneswyr sy’n ymweld â’r pentref a’r ymwelwyr sydd ar drywydd ei hanes. Disgrifiwyd Llancarfan fel ‘y seintwar fechan hon ymhlith y gwylltir’, ac mae ei llwybrau troellog yn plethu’r eglwys a’r dafarn, creiriau hynafol, ffynhonnau bywiol a difyrion gwledig. Mae ein golygfeydd (o’r chwith i’r dde) yn edrych tua rhyd y pentref, o’r hen efail, a Dwyrain Aberddawan, gerllaw, lle mae ein hafon yn llifo i’r môr.
Am ragor o wybodaeth gweler:
http://www.ggat.org.uk/cadw/historic_landscape/llancarfan/english/llancarfan_features.htm
http://www.llancarfansociety.org.uk/
http://www.llancarfan.org.uk/
http://www.geograph.org.uk/search.php?i=12191084
