Cynnwys y Safle © 2010: Eglwys Cadog Sant, MfH a Ffynonellau a Nodwyd

Gwegynllunio: Redannick a MfH: gwaith datblygu gwreiddiol gan Dot Designs.


church etching

Croeso i ymwelwyr! Mae yna nifer gynyddol o bethau i’w gwneud ar eich ymweliad ag Eglwys Cadog Sant, dyffryn hanesyddol Llancarfan a Bro fendigedig Morgannwg.  Mae nawdd gan gyfranwyr hael, a chyllid sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw, yn hyrwyddo gwaith ail-ddarganfod, cadwraeth a dehongli ar drysorau diwylliannol coll a rhai sydd wedi peri penbleth i’r dehonglwyr.

Cliciwch ar y botwm ‘Trysorau’ i archwilio’r murluniau sy’n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif. Cawsant eu cuddio yng nghyfnod y diwygiad Protestannaidd ond bellach maen nhw’n dechrau dod i’r golwg, a’r gobaith yw y byddant yn rhai o’r pwysicaf yng Nghymru. Cewch grafu pen, hefyd, dros ein cerfiadau pren rhyfeddol. Does neb yn sicr o hyd o ble y daethant. Nôl ym 1865 nododd ymwelwyr ‘y byddai modd trwsio… y sgrin gywrain ond braenllyd hon… ar gost resymol iawn’. Gyda’ch cymorth chi, gallai’r sgrin o’r 15fed ganrif gael ei diogelu o’r diwedd yn y modd y mae’n ei deilyngu.

Efallai y bydd casglwyr achau am geisio datrys yr hanesion teuluol sydd wedi eu naddu ar y cerrig beddi. (Y dyddiad cynharaf y medrwch ei ddarllen yw ‘1602’.) Mae Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg wedi cyhoeddi adysgrifau gwerthfawr o’r cofebau, a hefyd ein cofrestri plwyf, sy’n cynnwys dyddiadau rhwng 1619 a 1900. Mae manylion i’w gweld ar eu gwefan.  Gan mai Bro’r Saint yw hon, a’i safle ar lannau Hafren yn agored i bawb, yn Normaniaid a Llychlynwyr, Defoniaid crwydrol a Cheltiaid o Gernyw, mae ein tirlun Cymreig yn gyforiog o dreftadaeth hanesyddol. Dilynwch ambell i drywydd i’n heglwysi, cestyll, penrhynion a hyd yn oed dafarnau – ac fe welwch Fro sy’n ddrych i wahanol agweddau ei hanes.