Cynnwys y Safle © 2010: Eglwys Cadog Sant, MfH a Ffynonellau a Nodwyd

Gwegynllunio: Redannick a MfH: gwaith datblygu gwreiddiol gan Dot Designs.


Eglwys Cadog Sant yn Llancarfan [CF623AD] yw canolbwynt y pentref bach hyfryd hwn ym mhlygion Bro Morgannwg. Saif y pentref 15 milltir o Gaerdydd, deg munud o daith o afon rymus Hafren, a saith milltir o dref farchnad lewyrchus y Bont-faen. Mae'n flin gennym fod yr eglwys ar gau (heblaw ar gyfer gwasanaethau).

Fel cân ei chlychau, mae galwad fugeiliol yr eglwys yn atseinio tu hwnt i glustiau’r addolwyr cyson yn unig. Mae’r pentrefwyr yn hynod o falch o brydferthwch a hynafiaeth eu heglwys. Daethant at ei gilydd i brynu’r dafarn leol – y ‘Fox and Hounds’ – pan oedd dan fygythiad. Mae ganddynt deimladau yr un mor dwymgalon at hanes a pharhad eglwys sy’n dal i ddatgelu cyfrinachau diwylliannol sydd wedi bod dan gochl ers canrifoedd.                 


church etching