Y DYN YN YR HET WLÂN
Er bod y gwr yma’n edrych fel pe bai’n gwisgo gorchudd tebot o wlân am ei ben, cadarnhaodd yr archaeolegwyr y gallai fod yn eicon Cymreig go iawn. Mae’n gwisgo Capan Trefynwy.
Chwaraeodd yr het wlân hon ei rhan yn ein hanes o Edward IVydd hyd Elisabeth Iaf. Ym 1571 deddfodd statud y dylai pawb yn Lloegr dros chwe blwydd oed (ar wahân i’r bonheddwyr) 'wear upon the Sabbath & Holydays, one cap of wool knit, thicked and dressed in England, upon forfeiture of 3s 4d.' Mor gynnar â 1449 roedd diwydiant gwneud capanau pwysig ar waith yn Nhrefynwy, yn cadw pennau yn ddiddos ac yn gyfreithlon.
Gallai cliwiau llenyddol daflu goleuni ar waith y g?r sydd yma. Yn nrama Shakespeare roedd Capten Fluellen, y cymeriad o Gymro, wrth ei fodd bod ei filwyr Cymreig yn Agincourt yn gwisgo cennin yn eu capanau Trefynwy. Mae’n edrych yn debyg eu bod yn rhan o wisg arferol pob milwr. Mae archeb wedi goroesi o 1627 am 'six thousand suites complete for land soldiers'. Byddai’r ymladdwyr yn gwisgo 'cassocks, hose, shoes, stockings, shirts, bands and Monmouth caps'.
Does dim prawf hyd yn hyn mai milwr yw’r dyn yn y llun. Ond mae’n bosib y bydd rhagor o waith cadwraeth yn datrys y pos.