Y DYWYSOGES A’R OEN Y dywysoges yw’r darganfyddiad mwyaf trawiadol, yn weledol, hyd yma. Hi sy’n darlunio’r bennod enwocaf yn y chwedlau am Siôr a’r ddraig. Mae’r Dywysoges a’r oen (‘oen Duw’, sy’n cynrychioli Crist) yn cael eu hachub o safnau’r ddraig, ac yna mae’r teulu brenhinol paganaidd yn troi’n Gristnogion.
Fel ein holl baentiadau eraill, roedd y dywysoges wedi diflannu gyda gorchymyn Edward VIed: ' . . . destroy all shrines. . . pictures, paintings and all other monuments of feigned miracles. . . so that there remain no memory of the same.'
Mater dadlau yw faint o ‘atgof’ oedd amdanynt, gan fod arferion Pabyddol wedi parhau yma fel mewn mannau eraill. Ond erbyn y 19eg ganrif, pan welwyd bod angen dybryd i wneud gwaith adferol ar lawer o eglwysi, dechreuodd delweddau gael eu hailddarganfod. Ym 1883, cofnododd Amgueddfa V ac A (braidd yn hwyr) 71 delwedd o San Siôr a’r ddraig ar furiau eglwysi ym Mhrydain. Yn Llancarfan ym 1875 apeliodd y ficer am arian i adfer yr eglwys. Mae’n bosib iddo wedyn ddatgelu’r dywysoges a chymryd mai ffigwr o’r Forwyn Fair oedd hi. Dywedir iddo ei gwyngalchu eto, gan ei bod yn ‘rhy Babyddol’.