Cynnwys y Safle © 2010: Eglwys Cadog Sant, MfH a Ffynonellau a Nodwyd

Gwegynllunio: Redannick a MfH: gwaith datblygu gwreiddiol gan Dot Designs.


Eglwys Cadog Sant yn Llancarfan yw canolbwynt y pentref bach hyfryd hwn ym mhlygion Bro Morgannwg. Our church, though closed except for services for conservation work from 16 April to 8 June 2012, is normally open daily from 1000 to at least 1700. Saif y pentref 15 milltir o Gaerdydd, a saith milltir o dref farchnad lewyrchus y Bont-faen. 

Fel cân ei chlychau, mae galwad fugeiliol yr eglwys yn atseinio tu hwnt i glustiau’r addolwyr cyson yn unig. Mae’r pentrefwyr yn hynod o falch o brydferthwch a hynafiaeth eu heglwys. Daethant at ei gilydd i brynu’r dafarn leol – y ‘Fox and Hounds’ – pan oedd dan fygythiad. Mae ganddynt deimladau yr un mor dwymgalon at hanes a pharhad eglwys sy’n dal i ddatgelu cyfrinachau diwylliannol sydd wedi bod dan gochl ers canrifoedd. Estynnwn groeso cynnes i chi archwilio’r wefan wrth iddi ddatblygu, neu glicio ar y chwith i weld y testun Saesneg.                             Fersiwn Gymraeg gan Elin ap Hywel.


church etching